
Mae’r Gweinidog newydd dros Gynhwysiant Digidol, Paul Murphy, wedi apelio am gefnogaeth y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i helpu i gyrraedd y traean olaf o ddinasyddion y DU sydd wedi’u hallgáu o’r byd digidol ar hyn o bryd.
Gwnaeth Mr Murphy, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ei araith gyntaf fel y Gweinidog dros Gynhwysiant Digidol yn y Gynhadledd Genedlaethol ar Gynhwysiant Digidol yn Llundain heddiw (Dydd Mawrth, 29 Ebrill).
Ymgasglodd dros 200 o wneuthurwyr polisi ac ymarferwyr sy’n gweithio ym mhob adran o’r llywodraeth, diwydiant a’r trydydd sector, i ystyried yr anghyfartaledd ledled y DU o ran mynediad at dechnoleg ddigidol a’r camau pellach sydd angen eu cymryd er mwyn cyrraedd y dinasyddion hynny sydd wedi cael eu hallgáu fwyaf o’r byd digidol - gan gynnwys pobl hŷn a grwpiau dan anfantais gymdeithasol.
Soniodd Mr Murphy am lunio Cynllun Gweithredu Strategaeth Ddigidol nawr bod pwyllgor Cabinet newydd wedi’i sefydlu er mwyn mynd i’r afael â chynhwysiant digidol.
Dywedodd: “Yr wyf yn falch iawn fy mod wedi cael cynnig y cyfrifoldeb i arwain a hyrwyddo cynhwysiant digidol ar draws y Llywodraeth, yn ogystal â’m cyfrifoldebau dros Gymru.
“Mae technoleg a’r rhyngrwyd bellach yn rhan annatod o’n cymdeithas. Fodd bynnag, ni allwn anwybyddu’r ffaith bod y rheini sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol yn llawer llai tebygol o allu cael mynediad at dechnoleg a manteisio arno.
“Nod cynhwysiant digidol yw creu cymdeithas deg a rhoi manteision cymdeithasol ac economaidd i unigolion, i gymunedau ac i’r economi’n gyffredinol. Mae’r cysylltiad rhwng bod dan anfantais yn gymdeithasol a bod dan anfantais yn dechnolegol yn esbonio pam fod cynhwysiant digidol yn flaenoriaeth y dyddiau hyn.
“Am y rheswm hwn, mae’r Llywodraeth wedi sefydlu pwyllgor Cabinet newydd sy’n canolbwyntio ar allgau digidol. Bydd fy nghyd-Weinidogion o bob adran yn eistedd ar y pwyllgor hwn a gyda’n gilydd byddwn yn edrych ar sut i gydlynu polisïau a llunio strategaeth ystyrlon er mwyn sicrhau y bydd pob dinesydd, yn enwedig y rheini dan anfantais, yn gallu manteisio ar ddefnyddio technolegau digidol.
“Cawsom ein cyfarfod cyntaf yr wythnos diwethaf, ac rydym yn edrych ymlaen at lunio Cynllun Gweithredu Strategaeth Ddigidol dros y misoedd nesaf a fydd yn adeiladu ar y gwersi y mae’r Llywodraeth wedi’u dysgu hyd yma.
“Mae angen gweithredu i atal technolegau digidol rhag creu rhaniad yn ein gwlad. Yn hytrach, dylent fod yn ffyrdd pwerus a grymus o sicrhau cyfartaledd.
Dau Weinidog arall y Llywodraeth a anerchodd y gynhadledd oedd y Gweinidog Ysgolion, Jim Knight, a’r Gweinidog dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, y Farwnes Andrews, a ganolbwyntiodd ar rôl technolegau digidol mewn addysg ac ar waith yr awdurdodau lleol a’r partneriaethau strategol lleol.
Dywedodd y Gweinidog Ysgolion, Jim Knight: “Ein nod yw darparu mynediad ar gyfer pob cartref sy’n cynnwys person ifanc rhwng 5-19 oed. Mae angen i ni bontio’r Rhaniad Digidol oherwydd yr effaith y caiff ar gyrhaeddiad addysgol a chefnogaeth rhieni, ond hefyd oherwydd ei fod yn rhoi cyfleoedd i ehangu mynediad at y manteision lu o wasanaethau cyhoeddus sydd ar gael ar-lein a’r sgiliau i gymryd rhan yn yr economi fodern. Mae defnyddio’r rhyngrwyd yn effeithiol, yn ddiogel ac yn gytbwys yn esgor ar lawer o fanteision i bobl. Gellir dehongli cynhwysiant digidol fel cyfiawnder cymdeithasol, ac yn y byd sydd ohoni, mae hwn felly yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.
Dywedodd y Gweinidog dros Gymunedau, y Farwnes Andrews: “Mae technolegau newydd yn cynnig atebion cyffrous a chreadigol i fynd i’r afael â’r allgau a’r amddifadedd cymdeithasol sy’n felltith ar fywydau gormod o bobl.
“P’un ai os ydych yn gwneud apwyntiad gyda Meddyg Teulu, yn gwneud cais am gwrs nos, yn deisebu eich cynghorydd lleol neu’n arfogi gwasanaethau rheng flaen i ddarparu gwasanaethau amser real i’r bobl mwyaf difreintiedig, mae gwneud gwell defnydd o dechnoleg yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan gynnwys cysylltu cymunedau ar y We Fyd Eang, yn gallu cael effaith anferth, gan roi cyfleoedd i bobl y mae’r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol.
“Dyna pam fy mod eisiau adeiladu ar y gwersi a’r arfer da sy’n deillio o enillwyr yr Her Ddigidol, sef Sunderland, ac o’r rhwydwaith DC10plus, i greu rhwydwaith o ‘gynghorwyr digidol’ ym mhob rhanbarth a sicrhau bod pob partneriaeth strategol leol yn gallu manteisio i’r eithaf ar yr adnodd newydd hwn.
“Bydd y timau newydd hyn yn gweithio ar draws holl Swyddfeydd y Llywodraeth, yn darparu cefnogaeth arbenigol ac yn rhannu’r arferion gorau sydd eisoes ar waith mewn awdurdodau lleol a’u partneriaid, fel y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol a phontio’r rhaniad cymdeithasol drwy bontio’r rhaniad digidol.”
Nodiadau i Olygyddion